Ar ôl i chi uwchlwytho eich nofiad cyntaf...
Mae SWIMTAG yn rhoi golwg unigryw i chi ar eich nofiad; gallwch ddadansoddi pob hyd a hollt unigol, neu weld eich setiau hyfforddi wedi'u grwpio
Mae'r system yn olrhain nifer yr hydoedd rydych yn eu cwblhau, amseroedd hollt, math o ddull nofio a chyfradd strôc. Yna gallwch gadw golwg ar ystadegau nofio allweddol fel cyflymder cyfartalog, pellter fesul strôc, calorïau a losgir a chanran y gorffwys
Mae'r hafan yn eich diweddaru â'ch cynnydd a'ch cyflawniadau diweddaraf; gyda phob nofiad a gofnodir byddwn yn rhoi gwybod i chi am PBs, diweddariadau cystadlaethau a heriau newydd.
Byddwch hefyd yn derbyn hysbysiadau gan eich pwll lleol am y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf, gan eich cadw'n gyfredol â'r gweithgarwch diweddaraf wrth ymyl y pwll.